NDM8688 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2024 | I'w drafod ar 15/10/2024Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-24.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod tua 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi.
Yn cefnogi galwadau Comisiynydd Plant Cymru i Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru gael targedau clir a chanlyniadau mesuradwy.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Plant i weithredu ymgyrch Ymddiriedolaeth WAVE i leihau cam-drin plant, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod erbyn 2030.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod 14 mlynedd o lymder gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU wedi dwysau lefelau tlodi, ac yn benodol tlodi plant, yng Nghymru.
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn 2016 wedi cael gwared ar y targed o ddileu tlodi plant erbyn 2020.