NDM8683 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2024 | I'w drafod ar 09/10/2024

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2024.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2024.