NDM8679 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2024 | I'w drafod ar 02/10/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) pryderon a godwyd gan RNIB Cymru bod tua 80,000 o bobl sydd â'r risg uchaf o golli golwg na ellir ei wrthdroi yn aros y tu hwnt i'w dyddiad targed ar gyfer apwyntiad;

b) bod dros 104,000 o lwybrau cleifion yng Nghymru yn aros am apwyntiad offthalmoleg ym mis Ebrill 2024; ac

c) bod Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn amcangyfrif bod disgwyl i'r galw am wasanaethau gofal llygaid yng Nghymru gynyddu 40 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf.

2. Yn gresynu:

a) bod y cynnydd mwyaf yn nifer y llwybrau cleifion sy'n aros dros flwyddyn mewn offthalmoleg;

b) bod y gweithlu offthalmig wedi gweld gostyngiad 2 y cant yn ei weithlu ynghyd â chynnydd 56 y cant mewn atgyfeiriadau yn ystod y degawd diwethaf; ac

c) nad yw'r system cofnod ac atgyfeiriad cleifion electronig, a lansiwyd gyntaf yn 2021, yn weithredol ledled Cymru o hyd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) derbyn argymhellion y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg ac ymrwymo i wneud y buddsoddiad angenrheidiol i atal gwasanaethau gofal llygaid rhag chwalu'n ddiymatal ledled Cymru;

b) pennu targedau a therfynau amser ar gyfer gwella ôl-groniadau rhestrau aros, gan sicrhau bod cleifion sy'n aros yn cael neges am eu risg glinigol; ac

c) cyhoeddi amserlen ar gyfer datblygu a chyflwyno'r system cofnod ac atgyfeiriad cleifion electronig.

Gwelliannau

NDM8679 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod nad yw amseroedd aros offthalmoleg yn cynrychioli dymuniadau Llywodraeth Cymru na'r cyhoedd yn hyn o beth.

2. Yn nodi bod nifer y llwybrau offthalmoleg a oedd yn aros mwy na dwy flynedd ar ddiwedd mis Gorffennaf 2024 44 y cant yn is na’r uchafbwynt ym mis Mawrth 2022.

3. Yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud gan Weithrediaeth y GIG a'r rhwydwaith clinigol offthalmoleg i ddiwygio llwybrau offthalmoleg ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd.

4. Yn croesawu'r diwygiadau i optometreg, sy'n golygu bod optometryddion cymunedol bellach yn gallu rhoi diagnosis, trin, a rheoli mwy o bobl ym maes gofal sylfaenol, gan ddarparu mynediad cyflymach a haws.