NDM8667 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024 | I'w drafod ar 25/09/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi bod ar waith yng Nghymru ers dros flwyddyn.

2. Yn nodi:

a) y 469,571 o bobl a lofnododd ddeiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’;

b) y Memorandwm Esboniadol gan Lywodraeth Cymru ei hun ar gyfer Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022, lle nodwyd anfantais economaidd o hyd at £8.9 biliwn yn sgil yr amseroedd teithio hirach a fyddai’n gysylltiedig â'r polisi terfyn cyflymder diofyn o 20mya;

c) sylwadau'r cyn-Ddirprwy Weinidog Trafnidiaeth y dylid bod wedi defnyddio mwy o synnwyr cyffredin wrth gyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya yng Nghymru;

d) adroddiad monitro ansawdd aer Trafnidiaeth Cymru sy’n dangos, o ran hanner yr ardaloedd lle cynhaliwyd profion, y bu cynnydd mewn lefelau nitrogen deuocsid y tu mewn i’r parthau 20mya o'i gymharu â'r tu allan; ac

e) bod awdurdodau lleol Cymru wedi cael ceisiadau i newid miloedd o ffyrdd o 20mya yn ôl i 30mya.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i ddiddymu'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya; a

b) i weithio gydag awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno dull wedi'i dargedu o bennu terfynau cyflymder o 20mya, sydd â chydsyniad pobl leol.

Gwelliannau

NDM8667 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2024

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd

1. Yn nodi:

a) bod y terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya wedi bod ar waith yng Nghymru ers dros flwyddyn; a

b) cefnogaeth drawsbleidiol flaenorol y Senedd ar gyfer cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya yng Nghymru a phresenoldeb cynlluniau tebyg mewn cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan y Ceidwadwyr yn Lloegr.

2. Yn credu, o'u gweithredu'n briodol ac yn rhesymegol, bod gan derfynau cyflymder 20mya rôl ddefnyddiol wrth wneud cymunedau'n fwy diogel a lleihau'r pwysau ar y GIG.

3. Yn gresynu at yr oedi gan Lywodraeth Cymru wrth weithredu ar welliant Plaid Cymru a gefnogir gan y Senedd, a fyddai wedi grymuso cymunedau ar unwaith i adolygu a gwneud eithriadau pellach yn ogystal ag adolygu'r canllawiau i awdurdodau lleol.

4. Yn cydnabod cryfder teimladau ar y mater hwn o ganlyniad i weithredu, ymgysylltu a chyfathrebu anghyson ynghylch y newidiadau.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr adolygiad presennol yn mynd i'r afael â'r pryderon y gellir eu cyfiawnhau, a'i fod ag adnoddau digonol.

NDM8667 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.     Yn cydnabod bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dros flwyddyn.

2.     Yn nodi:

a)    y gostyngiad sylweddol mewn gwrthdrawiadau ac anafusion ers cyflwyno’r terfyn; a

b)    y ffaith bod 469,571 o bobl wedi llofnodi deiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’

c)     y rhaglen gynhwysfawr o wrando a gynhaliwyd dros yr haf, gan ymgysylltu â phobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol;

d)    y ffaith y bydd y gwaith monitro a gwerthuso parhaus yn casglu tystiolaeth o effeithiau’r polisi o ran yr economi, iechyd a’r amgylchedd;

e)    y ffaith bod adroddiad monitro ansawdd aer Cam 1 Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 yn dangos nad oedd unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol hyd yma; ac

f)      y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol Cymru sydd wedi derbyn ceisiadau i newid y terfyn i 30mya ar rai ffyrdd.

3.     Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi awdurdodau lleol Cymru er mwyn cyflawni terfynau cyflymder 20mya trwy ddull targedu, gan sicrhau bod y terfyn mewn grym ar y ffyrdd cywir ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.