NDM8664 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024 | I'w drafod ar 08/01/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) y prinder sylweddol o wasanaethau deintyddol y GIG yng ngogledd Cymru, yn enwedig yn Arfon gyda dim ond 36.6 y cant o'r boblogaeth yn gallu derbyn triniaeth drwy’r GIG sef y ganran isaf yng Nghymru;

b) cyhoeddi adroddiad "Llenwi’r Bwlch" a gomisiynwyd gan Sian Gwenllian AS yn gwneud yr achos dros sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mangor.
 

2. Yn credu:

a) bod gwasanaethau deintyddol yng ngogledd Cymru mewn sefyllfa o argyfwng:

b) bod prinder difrifol o ddeintyddion y GIG yn Arfon sy'n gadael llawer o gleifion, gan gynnwys plant a phobl fregus, heb fynediad priodol at ofal deintyddol sylfaenol;

c) bod pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar adrannau brys yr ysbytai lleol oherwydd diffyg mynediad at ddeintyddion, gan arwain at gostau ac amseroedd aros ychwanegol;

d) bod angen am fwy o hyfforddiant deintyddol;

e) bod nifer sylweddol o fyfyrwyr sy’n dymuno astudio deintyddiaeth yn gorfod gadael Cymru oherwydd diffyg capasiti mewn ysgolion deintyddol;

f) y gallai ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor chwarae rôl allweddol wrth hyfforddi mwy o ddeintyddion yn lleol, gan gynnig gwell siawns o gadw’r gweithlu deintyddol yn y rhanbarth a darparu gwasanaethau hanfodol yn lleol;

g) y byddai sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn darparu swyddi newydd o safon a denu buddsoddiad i'r economi lleol, gan gefnogi Bangor fel canolfan ragoriaeth ym maes iechyd, ochr yn ochr â'r ysgol feddygol newydd;

h) y gallai’r ysgol ddeintyddol ychwanegu at y ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol Cymraeg a dwyieithog, gan wella mynediad at ofal iechyd i gymunedau lleol sy’n siarad Cymraeg.
 
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) ystyried yr achos economaidd ac iechyd cyhoeddus dros sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn seiliedig ar y canfyddiadau allweddol a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llenwi’r Bwlch;

b) sicrhau cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a sefydliadau perthnasol eraill i ddatblygu cynllun dichonoldeb ar gyfer sefydlu’r ysgol ddeintyddol; ac

c) buddsoddi’n strategol i sefydlu’r ysgol ddeintyddol fel rhan o ymdrechion ehangach i wella mynediad at wasanaethau iechyd yn y rhanbarth ac i fynd i’r afael â’r argyfwng parhaus mewn darpariaeth ddeintyddol yng Nghymru.

 

Cyflwynwyd gan