NNDM8660 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r annhegwch pan fo cwmnïau preifat yn gwneud elw o deuluoedd sydd wedi eu gwahanu a phlant sy’n agored i niwed drwy ganolfannau cyswllt plant yng Nghymru oherwydd diffyg cyllid gan y llywodraeth.

2. Yn nodi i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder symud cyllid o CAFCASS i Gymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyswllt Plant yn ystod y pandemig ac nad yw’r trefniant wedi’i adfer.

3. Yn gresynu bod rhieni'n gorfod talu allan o'u pocedi eu hunain i weld eu plant mewn canolfannau cyswllt â chymorth preifat neu ganolfannau cyswllt dan oruchwyliaeth yng Nghymru, weithiau hyd at £120 yr awr.

4. Yn cydnabod gwaith elusennau, awdurdodau lleol, gwirfoddolwyr, a grwpiau crefyddol wrth ddarparu rhai o'r canolfannau hyn am ddim.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod pob canolfan gyswllt yng Nghymru yn rhad ac am ddim lle y bo’u hangen;

b) mynnu bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn adfer cyllid ar gyfer achosion cyfreithiol cyhoeddus a phreifat lle y mae angen defnyddio canolfannau cyswllt plant;

c) rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r oedi sy'n rhwystro'r system gyfiawnder;

d) gweithio i sicrhau nad yw’r system canolfannau cyswllt plant yn cael ei defnyddio i wneud elw;

e) atal y loteri cod post o ran canolfannau cyswllt plant yng Nghymru.