NNDM8659 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod dros 40 mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi Strategaeth Cymru Gyfan, a oedd â'r nod o dynnu pobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu allan o leoliadau ysbyty hirdymor a'u cefnogi i fyw yn eu cymunedau lleol.

2. Yn gresynu bod rhai pobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn dal i gael eu secsiynu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu'n cael eu cadw o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn ysbytai diogel, sy'n amhriodol o ran eu llesiant ac yn achosi trawma hirdymor sylweddol, yn ogystal â gofid iddynt hwy a'u hanwyliaid.

3. Yn credu bod hyn yn parhau i ddigwydd i bobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu oherwydd diffyg cymorth yn eu hardaloedd lleol, a bod secsiynu’n cael ei ddefnyddio fel opsiwn diofyn gan awdurdodau perthnasol o dan rai amgylchiadau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i nodi'n fanwl sut y bydd yn ymateb i bryderon ac amcanion ymgyrch 'Cartrefi Nid Ysbytai' Bywydau Wedi'u Dwyn;

b) i gasglu a chyhoeddi data cywir a chyfredol ar:

i) nifer y bobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru sy'n cael eu lleoli mewn ysbytai;

ii) y math o ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. ysbytai iechyd meddwl neu unedau asesu a thrin;

iii) darparwyr yr ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol; a

iv) nifer a natur y lleoliadau byw â chymorth neu leoliadau preswyl sydd wedi methu, gan arwain at symud unigolion i ysbytai e.e. enw'r darparwr a'r math o ddarparwr; 

c) i roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen pwrpasol i weithio gyda rhanddeiliaid i helpu i fynd i'r afael â'r materion a'r pryderon a godwyd gan Bywydau Wedi’u Dwyn, ac sydd o fewn ei chyfrifoldebau datganoledig; a

d) i weithredu argymhellion ei hadolygiad gofal cenedlaethol yn 2020, a nododd yn glir mai dim ond os nad oes ffyrdd eraill o'u trin yn ddiogel y dylai pobl aros mewn ysbytai.