NNDM8656 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi nad yw'r cyfrifoldeb dros ddeddfu i ganiatáu cymorth i farw wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ei fod ar hyn o bryd yn fater a gaiff ei lywodraethu gan gyfraith droseddol. 

2. Yn nodi, pe bai cymorth i farw yn cael ei gyfreithloni, ac o ystyried ei chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai angen i Lywodraeth Cymru gael dealltwriaeth fanwl o unrhyw gynigion.

3. Yn credu y dylai oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol annioddefadwy na ellir ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw, gael yr opsiwn o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu cadarn.

4. Yn nodi bod ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan wedi canfod cysylltiad rhwng cyflwyno cymorth i farw a gwelliant o ran gofal lliniarol mewn sawl awdurdodaeth.

5. Yn nodi bod y Swyddfa Economeg Iechyd wedi canfod, hyd yn oed pe baent yn cael y feddygaeth liniarol orau, y byddai o leiaf 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr yn marw heb unrhyw ffordd effeithiol o leddfu eu poen yn eu mis olaf.

6. Yn nodi bod agweddau'r cyhoedd at roi cymorth i farw wedi newid, gyda hyd at 88% o'r cyhoedd yn ffafrio newid y gyfraith.

7. O ran pobl o'r DU sy'n dioddef, bod mwy nag un yr wythnos bellach yn dewis dod â'u bywyd i ben yn un o ganolfannau diwedd oes y Swistir, a bod llawer yn rhagor a fyddai'n dewis gwneud yr un peth ond sy’n methu â fforddio'r costau uchel perthnasol, sy’n aml ymhell dros £10,000.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi egwyddorion cymorth i farw; a

b) cefnogi senedd San Steffan i gyflwyno deddf dosturiol o ran cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr.