NDM8652 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024 | I'w drafod ar 18/09/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y Prif Weinidog a'i rhagflaenwyr wedi blaenoriaethu torri rhestrau aros yn y GIG.

2. Yn gresynu bod:

a) ystadegau perfformiad diweddaraf y GIG yn dangos bod rhestrau aros yng Nghymru ar eu lefel uchaf erioed; a

b) penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i gofleidio polisïau llymder fel torri nôl ar y taliad tanwydd gaeaf yn dwysau'r pwysau ar y GIG.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar frys ei chynllun i leihau rhestrau aros ac anrhydeddu ymrwymiad Prif Weinidogion y gorffennol a'r Prif Weinidog presennol. 

Gwelliannau

NDM8652 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2024

Dileu pwynt 2b) a rhoi yn ei le:

bydd penderfyniadau gwariant fel torri taliadau tanwydd gaeaf i bensiynwyr yn arwain at effaith andwyol ar GIG Cymru;

NDM8652 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2024

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

ar dri achlysur, mae Llywodraeth Cymru wedi torri'r gyllideb iechyd mewn termau real: yr unig lywodraeth yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny erioed;

NDM8652 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl gynnydd o 20 y cant mewn cyllid canlyniadol Barnett ar gyfer iechyd yn cael ei wario ar GIG Cymru.

NDM8652 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1) Yn nodi:

a) bod y Prif Weinidog a'i rhagflaenwyr wedi blaenoriaethu torri rhestrau aros yn y GIG; a

b) bod nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi lleihau 67% ers yr uchafbwynt ym mis Mawrth 2022.