NDM8651 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024 | I'w drafod ar 18/09/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn mynegi pryder dybryd y bydd tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli hyd at £300 y pen yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â’r taliad tanwydd gaeaf cyffredinol i ben.

2. Yn nodi ymateb Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip i WQ93698, lle nododd fod risg y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â thaliad tanwydd y gaeaf i ben yn gwthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i ddod â'r taliad tanwydd gaeaf cyffredinol i ben.

Gwelliannau

NDM8651 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu fod tynnu nôl ar ddarpariaeth gynhwysol y taliad tanwydd gaeaf yn barhad o agenda llymder llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU.

NDM8651 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi gwneud dewisiadau anodd, fel newidiadau i’r cymhwystra ar gyfer lwfans tanwydd y gaeaf, yn sgil 14 o flynyddoedd o gamreoli economaidd.

2. Yn croesawu’r ymrwymiad i’r clo triphlyg a dull wedi’i dargedu o gyflwyno’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes.

3. Yn cytuno bod sicrhau’r incwm mwyaf, meithrin cadernid ariannol a rhoi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl yn flaenoriaethau ar gyfer lliniaru effaith prisiau ynni uchel, ac yn annog pobl i ddod i wybod mwy am y cymorth ariannol y gallai fod ganddynt hawl iddo drwy Advicelink Cymru..

4. Yn cefnogi’r egwyddor o dariff cymdeithasol er mwyn diogelu’r cwsmeriaid sydd fwyaf agored i niwed, ac yn galw ar OFGEM i ddiwygio taliadau sefydlog.