NDM8644 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024 | I'w drafod ar 17/07/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu cyfraniad economaidd gwerthfawr ffermio yng Nghymru i economi Cymru.

2. Yn cydnabod manteision digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a sioeau'r haf wrth gefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg.

3. Yn cefnogi cryfder y teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy, a'r neges bwerus 'dim ffermwyr dim bwyd'.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod gan gynllun ffermio cynaliadwy newydd gefnogaeth gan y gymuned ffermio, gyda diogelwch bwyd a diogelu'r amgylchedd wrth ei wraidd, sy'n tynnu sylw at y neges bwerus 'dim ffermwyr dim bwyd'; a

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ehangu ar y 87 gair ynghylch ffermio sydd wedi'u cynnwys ym maniffesto Llafur ar gyfer etholiad cyffredinol y DU, i gyflwyno cynllun ar gyfer ffermio a ffermwyr ar draws y Deyrnas Unedig.

Gwelliannau

NDM8644 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu:

a) bod cymunedau gwledig Cymru wedi colli £243 miliwn er gwaethaf ymrwymiad o 'ddim ceiniog yn llai' gan lywodraeth flaenorol y DU; a

b) bod cytundebau masnach newydd wedi agor y drws i fewnforion rhatach sy'n bygwth tanseilio'r cynhyrchwyr domestig.

NDM8644 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

sicrhau gyda Llywodraeth y DU gyllideb o dros £500 miliwn bob blwyddyn i amaethyddiaeth sy’n ystyried chwyddiant, i sicrhau bod modd cyflawni uchelgeisiau'r diwydiant ar gyfer bwyd, natur a hinsawdd;

NDM8644 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2024

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad ‘Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cadw ffermwyr yn ffermio' a gyhoeddwyd ar 11 Gorffennaf 2024.

Yn croesawu agwedd Llywodraeth Cymru tuag at gydweithio, wrth iddi barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn cwblhau’n derfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a hynny’n unol ag amcanion y Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) o ran Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad ‘Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cadw ffermwyr yn ffermio’