NDM8643 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024 | I'w drafod ar 17/07/2024

Cynnig bod y Senedd:

Yn sgil y datganiad personol a wnaed gan Hannah Blythyn AS i'r Senedd ar 9 Gorffennaf 2024, a gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn galw ar y Prif Weinidog i gynhyrchu at ddibenion y Senedd, gyda deunydd priodol wedi'i olygu i sicrhau bod tystion yn ddienw, yr holl dystiolaeth yr oedd yn dibynnu arni wrth benderfynu diswyddo'r cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol o Lywodraeth Cymru.