NDM8642 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024 | I'w drafod ar 17/07/2024

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn:

a) digwyddiad i randdeiliaid yng Nghanolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin;

b) grwpiau ffocws ymgysylltu â dinasyddion; a

c) digwyddiadau ymgysylltu gyda phobl ifanc.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26: Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu y Pwyllgor Cyllid