NDM8634 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024 | I'w drafod ar 10/07/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canlyniad etholiad cyffredinol y Deyrnas Gyfunol.

2. Yn credu y dylai Cymru gael o leiaf yr un pwerau â’r gwledydd datganoledig eraill.

3. Yn galw ar Lywodraeth newydd y Deyrnas Gyfunol i:

a) cynyddu’r Gyllideb Gymreig o £700 miliwn i’w hadfer i’r lefel a osodwyd yn ystod yr adolygiad o wariant yn 2021;

b) datganoli pwerau dros reolaeth Ystad y Goron a’i hasedau i Gymru;

c) datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru; a

d) dychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau a dyraniadau cyllid strwythurol i Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Gwelliannau

NDM8634 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 05/07/2024

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl a bleidleisiodd.

Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer Cymru.

NDM8634 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 05/07/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu canlyniad etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig.

2. Yn credu bod yr etholiad yn cynnig cyfle newydd i lywodraethau'r DU a Chymru gydweithio ar sail parch at ei gilydd a chydag ymdeimlad o ddiben cyffredin er budd pobl Cymru a'r DU gyfan.

3. Yn nodi’r sefyllfa heriol o ran cyllid cyhoeddus y DU a’r baich trethi ar aelwydydd yng Nghymru o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth flaenorol y DU.

4. Yn cydnabod y bydd camreoli economaidd Llywodraeth flaenorol y DU yn golygu y bydd yn cymryd amser i adfer y sefyllfa o ran y cyllid cyhoeddus.

5. Yn croesawu'r ymrwymiadau ym maniffesto Llafur y DU, gan gynnwys cynigion i adnewyddu cysylltiadau rhynglywodraethol, diweddaru Fframwaith Cyllidol Cymru, dychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau am gronfeydd strwythurol ar ôl yr UE i Lywodraeth Cymru, datganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n ymwneud â’r Ganolfan Byd Gwaith, ac ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth newydd y DU i gryfhau datganoli ymhellach yng Nghymru.

Maniffesto Llafur y DU