NDM8630 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2024 | I'w drafod ar 03/07/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru.
2. Yn cydnabod cynnig Llywodraeth y DU i helpu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG.
3. Yn gresynu at y canlynol:
a) bod nifer yr achosion o aros dwy flynedd am driniaeth wedi cynyddu i 21,290 yng Nghymru, y tro cyntaf iddynt gynyddu mewn dwy flynedd, o'i gymharu â 275 yn Lloegr;
b) bod amseroedd aros canolrifol am driniaeth y GIG yn 22 wythnos yng Nghymru, o'i gymharu â 13.9 wythnos yn Lloegr;
c) bod nifer y llwybrau cleifion yng Nghymru wedi cynyddu eto i 775,031, sef y ffigur uchaf a gofnodwyd, tra bod rhestrau aros wedi gostwng dros y chwe mis diwethaf yn Lloegr; a.
d) nid yw 54.2 y cant o alwadau coch am ambiwlans yn cyrraedd o fewn wyth munud.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dechrau dileu technolegau hen ffasiwn y GIG;
b) cyflwyno cynllun gweithlu sylweddol gydag ad-daliad ffioedd dysgu i weithwyr gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau;
c) sicrhau bod y swm llawn o gyllid canlyniadol Barnett sy'n deillio o wariant Llywodraeth y DU ar y GIG ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; a
d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall arfer gorau wrth dorri rhestrau aros y GIG.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu'r popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi methiant y Prif Weinidog i gyflawni ei amcan ei hun o ddod â rhestrau aros i lawr yng Nghymru.
Yn gresynu yng Nghymru
a) bod nifer yr arosiadau dwy flynedd am driniaeth wedi cynyddu i 21,290;
b) bod arosiadau canolrifol 22 wythnos am driniaeth y GIG;
c) bod nifer y llwybrau cleifion wedi cynyddu eto i 775,031, y ffigur uchaf a gofnodwyd; a
d) nad yw ambiwlans yn cyrraedd o fewn wyth munud ar gyfer 54.2 y cant o alwadau ambiwlans coch.
Yn gresynu:
a) bod cynlluniau gwariant Plaid Geidwadol y DU a Phlaid Lafur y DU yn awgrymu toriadau mean termau real i feysydd heb eu clustnodi yng nghyllideb Cymru a fydd yn gwaethygu'r pwysau ar y GIG; a
b) bod Plaid Geidwadol y DU a Phlaid Lafur y DU yn agor y drws i ddarparwyr preifat elwa ar y GIG.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i ddechrau dileu hen dechnolegau'r GIG;
b) i gyflwyno cynllun gweithlu sylweddol gydag ad-daliad ffioedd dysgu i weithwyr gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau;
c) i ddiogelu'r GIG fel sefydliad cwbl gyhoeddus sydd am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen; a
d) i wneud cais ffurfiol i Lywodraeth nesaf y DU ddod â fformiwla annheg Barnett i ben i sicrhau cyllid teg i Gymru a fydd yn galluogi buddsoddi yng ngweithlu'r GIG a recriwtio 500 o feddygon teulu.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddod â fformiwla annheg Barnett i ben, ac ariannu Cymru yn ôl yr angen, er mwyn buddsoddi'n briodol yn yr holl feysydd cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol.
Cyflwynwyd gan
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) bod arosiadau hir wedi lleihau 70 y cant ers y brig ym mis Mawrth 2022;
b) bod amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cael eu cyfrifo mewn ffyrdd gwahanol ar draws y DU – yng Nghymru maent yn cynnwys amseroedd aros am therapïau a diagnosteg; ac
c) bod Cymru yn gwario 15 y cant yn fwy y pen ar iechyd a gofal cymdeithasol nag yn Lloegr a bod Llywodraeth Cymru, yn 2024-25, yn buddsoddi mwy na 4 y cant yn ychwanegol yn y GIG o gymharu hynny â llai nag 1 y cant yn Lloegr.
Yn croesawu buddsoddiad a chymorth parhaus Llywodraeth Cymru fel y gall GIG Cymru fanteisio ar y diweddaraf o ran meddyginiaethau, triniaethau a thechnolegau.