NDM8628 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2024 | I'w drafod ar 03/07/2024

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru 2023-24, a osodwyd ar 3 Mai 2024.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2024. Ymatebodd Trafnidiaeth Cymru ar 22 Mai a 17 Mehefin 2024.