NDM8622 - Dadl y Senedd
Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2024 | I'w drafod ar 26/06/2024Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Trefniadau cadeirio Pwyllgor y Llywydd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2024.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18B, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.