NDM8616 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2024 | I'w drafod ar 26/06/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil buddion ynni cymunedol.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) sicrhau bod datblygiadau ynni adnewyddadwy o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol, a bod colli amwynder i gymunedau yn ystyriaeth allweddol wrth benderfynu a yw prosiectau seilwaith ynni mawr yn mynd rhagddynt;

b) ei gwneud yn ofynnol i elw o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy gael ei gadw yn yr ardal leol;

c) gwneud perchnogaeth leol yn elfen orfodol ym mhob datblygiad cynhyrchu ynni;

d) gwneud y defnydd o dechnoleg adnewyddadwy yn orfodol yn yr holl adeiladau newydd, datblygiadau sylweddol ac estyniadau; ac

e) defnyddio'r holl opsiynau tir llwyd hyfyw cyn y gellir ystyried unrhyw safle maes glas, yn enwedig os bydd yn effeithio ar gynefinoedd anghysbell ac amrywiol a/neu fod mynediad a seilwaith yn gyfyngedig neu'n anfodol.