NNDM8607 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 07/06/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wella hawliau tenantiaid drwy reoleiddio'r gwaith o reoli blaendaliadau tenantiaeth.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid a thenantiaid gymryd tystiolaeth ffotograffig o unrhyw ddifrod ar ddechrau tenantiaethau;

b) ei gwneud yn ofynnol i filiau wedi'u hanfonebu, wedi'u heitemeiddio, gael eu darparu cyn y gellir dal unrhyw flaendal yn ôl;

c) ei gwneud yn ofynnol i arolygiadau terfynol gael eu trefnu cyn diwedd tenantiaethau; a

d) sicrhau system anghydfod symlach, fwy effeithlon a chyflym.