NDM8604 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2024 | I'w drafod ar 12/06/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd wedi asesu'r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd ar 84 o argymhellion a oedd wedi'u cynnwys mewn pedwar adroddiad ar wahân ers 2013.

2. Yn gresynu bod chwech o'r 84 o argymhellion wedi'u categoreiddio'n goch, gan ddangos fawr ddim tystiolaeth o weithredu os o gwbl, a bod 41 wedi’u categoreiddio’n ambr, gan ddangs dim ond rhywfaint o dystiolaeth neu dystiolaeth gymedrol o weithredu, dros ddegawd ar ôl cyhoeddi'r adroddiad terfynol.

3. Yn credu bod y cynnydd a wnaed ar weithredu'r argymhellion wedi'i danseilio gan y penderfyniad dadleuol i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithredu argymhellion Adroddiad yr Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig yn llawn ac i nodi amserlenni clir ar gyfer cyflawni hyn; a

b) i gyhoeddi'r cyngor gweinidogol a arweiniodd at y penderfyniad i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall gan nodi'r goblygiadau i ddarpariaeth iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru.

Adroddiad Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Adroddiad wedi ei gynnwys o dudalen 32 (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM8604 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 07/06/2024

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

i ymddiheuro i bobl sydd wedi colli anwyliaid a chleifion sydd wedi dod i niwed o ganlyniad i argymhellion heb eu gweithredu a methiant i gyflawni gwelliannau.

NDM8604 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 07/06/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Adroddiad Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar Wasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i ddarparu asesiad annibynnol o'r cynnydd a wnaed ers 2013;

b) o'r 84 o argymhellion a wnaed mewn perthynas â phedwar adroddiad blaenorol, canfu Coleg Brenhinol y Seiciatryddion fod y mwyafrif helaeth wedi cael eu gweithredu;

c) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn adroddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn llawn ac y bydd yn ymateb yn ffurfiol iddo yn ei gyfarfod Bwrdd nesaf; a

d) y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu yn y Gogledd fel rhan o'r ymyrraeth mesurau arbennig.