NNDM8603 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:       

a) bod y Senedd wedi pasio Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ddeng mlynedd yn ôl, sef y ddeddf gyntaf o’r fath yn y byd, gyda’r nod o sefydlu seilwaith a fyddai'n ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i lawer mwy o bobl deithio bob dydd ar droed neu ar feic yn hytrach na mewn car;

b) bod y ddeddfwriaeth hon wedi cael ei chyflwyno oherwydd y dystiolaeth sylweddol bod mwy o deithio llesol yn gwella iechyd ac ansawdd aer, yn lleihau allyriadau carbon ac yn lleihau tagfeydd;

c) mai un o'r prif heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yw'r ganran uchel o'r boblogaeth sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod y her hon yn gwaethygu yn sgil ein lefelau isel o weithgarwch corfforol, yn enwedig ymhlith plant;

d) bod strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru yn nodi y “bydd buddsoddiad cyson a pharhaus mewn teithio llesol yn ein helpu i ailfeddwl am y ffordd rydym yn cymudo. Bydd hyn nid yn unig yn effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond bydd yn gwella ansawdd ein haer ac yn dylanwadu ar newid yn yr hinsawdd”;

e) bod cryn gynnydd wedi'i wneud o ran symud adnoddau tuag at y dull teithio mwyaf cynaliadwy hwn dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at waith sylweddol i ddatblygu seilwaith cerdded a beicio o safon uchel ac annog awdurdodau lleol i ddatblygu cyfres o brosiectau teithio llesol sy’n barod i’w rhoi ar waith a fydd yn cyfrannu ymhellach at newid dulliau teithio; ac

f) bod buddsoddiad parhaus yn y seilwaith teithio llesol ym Mharis eleni wedi arwain at sefyllfa lle roedd nifer y teithiau a wnaed ar feic yn uwch na’r nifer a wnaed mewn car.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal ei lefelau presennol o fuddsoddiad mewn seilwaith teithio llesol pwrpasol;

b) cynyddu ei hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o fanteision teithio llesol, o ran iechyd ac fel arall, a seilwaith newydd, diogel sy'n cael ei ddarparu ledled Cymru; ac

c) cydnabod, ar ôl degawdau o ddylunio ein cymunedau o amgylch ceir modur, y bydd newid i system drafnidiaeth wyrddach, iachach yn gofyn am ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi mewn seilwaith a hyrwyddo effeithiol.