NDM8600 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 06/06/2024 | I'w drafod ar 03/07/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r pryderon a gaiff eu codi’n rheolaidd gan Aelodau o’r Senedd am ddiffyg argaeledd gwasanaethau deintyddol y GIG.

2. Yn nodi’r rhwystrau a ddogfennir a’r argymhellion a wneir ar gyfer y ffordd ymlaen yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth.

3. Yn nodi’r heriau penodol yn ymwneud gyda chynllunio, hyfforddi, recriwtio a chadw deintyddion yng Nghymru.

4. Yn nodi cyhoeddi y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ym Mai 2024 a’r cyfeiriadau a wneir yn y cynllun hwnnw, yn benodol:

a) fod Cymru yn fewnforiwr net o ddeintyddion;

b) fod Cymru yn dibynnu ar ysgolion deintyddol y tu hwnt i Gymru i gynhyrchu digon o ddeintyddion i’w recriwtio i’r gweithlu; ac

c) mai’r Deyrnas Unedig sydd â’r nifer isaf o ddeintyddion fesul person o’i gymharu ag aelodau mawr eraill y G7 yn Ewrop.

5. Yn nodi fod nifer y lleoedd yn yr unig ysgol ddeintyddol yng Nghymru wedi’u cyfyngu bob blwyddyn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi prifysgol ar gyfer deintyddion yng Nghymru.

Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol

Cyflwynwyd gan