NNDM8597 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod gan gynhyrchu dur ddyfodol hyfyw yng Nghymru o fewn proses bontio sy'n cefnogi dyfodol cryfach, gwyrddach i economi Cymru.

2. Yn credu bod cadw'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru yn ganolog i fuddiannau economaidd Cymru ac i'r llwybr at sero-net.

Gwelliannau

NNDM8597 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw gefnogaeth ariannol i Tata Steel ers 2019.  

NNDM8597 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu grant £500 miliwn Llywodraeth y DU i Tata Steel i gefnogi cadw swyddi gweithwyr dur ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn ar gyfer ailhyfforddi a sgiliau.

NNDM8597 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Tata wedi gwrthod cynllun aml-undeb a fyddai wedi diogelu swyddi ac wedi cadw un o'r ffwrneisi chwyth ar agor yng ngwaith dur Port Talbot.

NNDM8597 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y diffyg eglurder ynghylch sut y byddai'r cynllun gwerth £3 biliwn gan Lafur y DU ar gyfer dur yn amddiffyn swyddi ac yn cefnogi datgarboneiddio yng ngwaith dur Port Talbot.

NNDM8597 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i gymryd y camau angenrheidiol i ddod â gwaith dur Port Talbot i berchnogaeth gyhoeddus.

NNDM8597 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn absenoldeb cynllun gan Lywodraeth y DU, i archwilio opsiynau deddfwriaethol ar gyfer prynu'r ffwrneisi chwyth yn orfodol ym Mhort Talbot, ynghyd â'r potensial o greu cwmni dur cydweithredol Cymreig.