NNDM8595 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod:

a) y niwed a'r dioddefaint a achoswyd i filoedd o bobl yn sgil y sgandal gwaethaf o ran triniaethau yn hanes y GIG;

b) ymgyrchu diflino a gwaith caled pawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef, i geisio'r gwir; ac

c) ymddiheuriad Llywodraeth y DU am y degawdau hir o fethiant moesol wrth galon ein bywyd cenedlaethol.

2. Yn croesawu adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a gyhoeddwyd ar 20 Mai 2024 a'i argymhellion.

3. Yn croesawu gwaith y pedair gwlad i sefydlu Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig.

4. Yn nodi y bydd taliadau iawndal pellach yn cael eu gwneud i bobl a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal.

Adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NNDM8595 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl unigolion yr effeithir arnynt yng Nghymru yn derbyn eu hail daliad iawndal interim o fewn 90 diwrnod i gyhoeddi adroddiad Langstaff.

NNDM8595 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu holl argymhellion adroddiad Langstaff sy'n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb datganoledig yn llawn ac yn ddi-oed.

NNDM8595 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i estyn allan yn rhagweithiol at yr holl unigolion yr effeithir arnynt yng Nghymru gyda'r cynnig o gefnogaeth a chwnsela perthnasol.