NDM8593 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2024 | I'w drafod ar 05/06/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pryder gwirioneddol y cyhoedd fod y Prif Weinidog wedi derbyn rhodd o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch i arwain y Blaid Lafur gan gwmni sy'n eiddo i unigolyn sydd â dwy euogfarn droseddol amgylcheddol, ac yn gresynu at y diffyg crebwyll a ddangoswyd gan y Prif Weinidog wrth dderbyn y rhodd hon, a'i fethiant i'w ad-dalu.

2. Yn gresynu at gyhoeddiad negeseuon gweinidogion Llywodraeth Cymru lle mae'r Prif Weinidog yn datgan ei fwriad i ddileu negeseuon a allai fod wedi bod o gymorth yn ddiweddarach i'r ymchwiliad COVID yn ei drafodaethau ynghylch y penderfyniadau a wnaed adeg y pandemig COVID, er i'r Prif Weinidog ddweud wrth ymchwiliad COVID y DU nad oedd wedi dileu unrhyw negeseuon.

3. Yn nodi diswyddiad y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol gan y Prif Weinidog o'i Lywodraeth, yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog yn fodlon cyhoeddi ei dystiolaeth ategol ar gyfer y diswyddiad, ac yn nodi bod y cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn yn gryf.

4. Am y rhesymau uchod, yn datgan nad oes ganddi hyder yn y Prif Weinidog.