NDM8589 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2024 | I'w drafod ar 22/05/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae’r sector twristiaeth yn ei wneud i Gymru, yn rhoi cyfrif am dros 150,000 o swyddi a 5 y cant o gynnyrch domestig gros.

2. Yn gresynu nad yw sector twristiaeth Cymru wedi adfer o hyd i’r lefelau cyn y pandemig.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sector twristiaeth Cymru drwy:

a) rhyddhau twristiaeth Cymru drwy wneud Croeso Cymru yn annibynnol;

b) cael gwared ar y dreth twristiaeth;

c) lleihau’r trothwy deiliadaeth 182 o ddiwrnodau i 105 o ddiwrnodau;

d) cyflwyno academi twristiaeth a lletygarwch i uwchsgilio’r sector ar gyfer y dyfodol; ac

e) mynd ati i elwa ar ddigwyddiadau mawr.

Gwelliannau

NDM8589 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod cyfraniad allweddol y sector twristiaeth yng Nghymru.

2. Yn gresynu at y ffaith nad yw sector twristiaeth Cymru, hyd yma, wedi cyrraedd ei lefelau cyn y pandemig.

3. Yn nodi cymorth Llywodraeth Cymru i’r sector a’r ymrwymiad i gydweithio â’r sector ac awdurdodau lleol er mwyn:

a) cyflwyno ardoll ymwelwyr os byddant yn dewis gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad;

b) cynnal y pwerau disgresiynol a’r canllawiau ar y dreth gyngor ac ail gartrefi;

c) ystyried academi ar gyfer twristiaeth a lletygarwch er mwyn gwella sgiliau o fewn y sector ar gyfer y dyfodol; a

d) mynd ati mewn modd rhagweithiol i elwa i’r eithaf ar ddigwyddiadau mawr.

NDM8589 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi effaith cynnydd mewn costau ar fusnesau, yn ogystal â'r effaith y mae’r argyfwng costau byw wedi'i chael ar wariant twristiaid yng Nghymru.

NDM8589 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2024

Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau (b) ac (c).

NDM8589 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2024

Yn is-bwynt (e) ym mhwynt 3, ar ôl 'ddigwyddiadau mawr', mewnosoder 'drwy hyrwyddo digwyddiadau sydd o fudd diwylliannol ac economaidd i Gymru'.