NDM8582 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2024 | I'w drafod ar 15/05/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd practisau meddygon teulu o ran lliniaru'r pwysau ar ysbytai a chefnogi cleifion ledled Cymru.

2. Yn gresynu bod gan Gymru 473 o bractisau meddygon teulu yn 2012, ond bod hyn wedi gostwng i 374 ym mis Rhagfyr 2023.

3. Yn gresynu ymhellach mai dim ond 6.1 y cant o gyllid GIG Cymru aeth tuag at ymarfer cyffredinol yn y flwyddyn 2020-21 a bod llai nag 8 y cant o gyllid GIG Cymru yn mynd tuag at ymarfer cyffredinol ar hyn o bryd, sy'n is nag yn 2005-6.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cymryd camau brys i sicrhau nad yw'r 100fed practis meddygon teulu yn cau yng Nghymru mewn ychydig dros ddegawd;

b) mabwysiadu galwadau allweddol ymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales i 11 y cant o gyllid GIG Cymru gael ei wario ar ymarfer cyffredinol ac i lunio strategaeth gweithlu i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o ran meddygon teulu fesul 1000 o bobl; ac

c) sicrhau bod y swm canlyniadol Barnett llawn, sy'n deillio o wariant ar y GIG gan Lywodraeth y DU, ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Gwelliannau

NDM8582 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/05/2024

Dileu is-bwynt 4 (b) a rhoi yn ei le:

mabwysiadu galwadau ymgyrch allweddol Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales o adfer cyfran cyllideb GIG Cymru a gaiff ei wario mewn ymarfer cyffredinol i 8.7 y cant gyda dyhead i gynyddu i fod yn agosach at 11 y cant ac i lunio strategaeth gweithlu i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o ran meddygon teulu fesul 1000 o bobl;

NDM8582 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 10/05/2024

Dileu is-bwynt 4 (c) a rhoi yn ei le: 

gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am adolygiad cynhwysfawr o fformiwla Barnett i sicrhau cyllid teg ar gyfer pob maes cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol;

NDM8582 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 10/05/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd practisau meddygon teulu.

2. Yn croesawu’r cynnydd o ran y Model Gofal Sylfaenol i Gymru sy'n cefnogi gofal mewn cymunedau lleol, yn nes at gartrefi pobl.

3. Yn nodi:

a) bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog;

b) bod y gostyngiad yn nifer y meddygfeydd yn adlewyrchu tuedd tuag at feddygfeydd mwy o faint wrth i feddygon teulu geisio lleihau costau a gwneud y mwyaf o adnoddau ar gyfer gweithgarwch sy'n wynebu cleifion;

c) bod y targed recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant bob blwyddyn yn cael ei gyflawni'n gyson; a

d) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r proffesiwn meddygon teulu ar raglen o ddiwygio contractau i leihau biwrocratiaeth i feddygon teulu a gwella profiadau i gleifion.

4. Yn cydnabod bod Cyllideb Cymru ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu’r cyllid i’r GIG yng Nghymru dros 4 y cant, o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr.