NDM8580 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 07/05/2024 | I'w drafod ar 22/05/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil addysg wleidyddol.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) sicrhau bod pob dysgwr mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru yn cael addysg benodol yn ymwneud â gwleidyddiaeth a democratiaeth Cymru;

b) ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a choleg sicrhau bod dysgwyr yn deall pwysigrwydd ymgysylltu dinesig ym mhroses ddemocrataidd Cymru; ac

c) sicrhau bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn teimlo'n fwy hyderus a gwybodus am etholiadau a phwrpas a phroses bwrw eu pleidlais.