NNDM8578 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:
a) bod Tata wedi cadarnhau y bydd yn cau ei ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot erbyn diwedd eleni;
b) y bydd cau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn arwain yn uniongyrchol at golli 2,800 o swyddi yn y tymor byr ac, yn ôl adroddiad a baratowyd ar gyfer y bwrdd trawsnewid, y gallai olygu y bydd cymaint â 9,500 o swyddi yn cael eu colli yn gyffredinol;
c) y bydd colli'r swyddi hyn yn achosi niwed economaidd a chymdeithasol difrifol i gymunedau'r rhanbarth ehangach;
d) y bydd cau ffwrneisi chwyth Port Talbot yn gadael Cymru a'r DU gyda bwlch o ran cynhyrchu dur sylfaenol ac mai dim ond drwy fewnforion tramor y gellir llenwi'r bwlch hwn.

2. Yn gresynu bod Tata wedi gwrthod cynllun amgen aml-undeb, a fyddai wedi diogelu swyddi ac wedi cadw un o'r ffwrneisi chwyth yng ngwaith dur Port Talbot ar agor, gan ddilyn dull tymor hwy ar gyfer datgarboneiddio.

3. Yn credu bod cadw'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru yn ganolog i fuddiannau economaidd a diogelwch cenedlaethol Cymru, a'r llwybr at sero net.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd y camau angenrheidiol i ddod â gwaith dur Port Talbot i berchnogaeth gyhoeddus.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn absenoldeb unrhyw gynllun gan Lywodraeth y DU i wladoli gwaith dur Tata, i archwilio opsiynau deddfwriaethol ar gyfer prynu ffwrneisi chwyth Tata ac asedau cysylltiedig ym Mhort Talbot yn orfodol, yn ogystal â'r potensial ar gyfer creu cwmni dur cydweithredol yng Nghymru.