NNDM8575 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) ddeng mlynedd yn ôl, pasiodd y Senedd Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 o’r radd, gyda'r nod o sefydlu'r seilwaith a fyddai'n ei gwneud hi'n haws ac yn fwy diogel i lawer mwy o bobl wneud teithiau bob dydd ar droed neu ar feic yn hytrach na mewn car;

b) cyflwynwyd y ddeddfwriaeth hon oherwydd y dystiolaeth sylweddol bod cynyddu teithio llesol yn gwella iechyd ac ansawdd aer, yn lleihau allyriadau carbon ac yn lleihau tagfeydd;

c) un o'r prif heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yw'r ganran uchel o'r boblogaeth sydd dros bwysau neu'n ordew, a bod yr her hon yn gwaethygu yn sgil lefelau isel o weithgarwch corfforol, yn enwedig ymhlith plant;

d) mae strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru yn datgan y ‘bydd buddsoddiad cyson a pharhaus mewn teithio llesol yn ein helpu i ailfeddwl am y ffordd rydym yn cymudo. Bydd hyn nid yn unig yn effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond bydd yn gwella ansawdd ein haer ac yn dylanwadu ar newid yn yr hinsawdd’;

e) yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwnaed cynnydd sylweddol o ran symud adnoddau tuag at y dull teithio mwyaf cynaliadwy hwn sydd wedi arwain at ddatblygiad sylweddol o seilwaith cerdded a beicio o ansawdd uchel ac sydd wedi annog awdurdodau lleol i ddatblygu cyfres o brosiectau teithio llesol sy’n barod i gychwyn a fydd yn cyfrannu ymhellach at newid moddol; ac

f) mae buddsoddiad parhaus mewn seilwaith teithio llesol ym Mharis eleni wedi arwain at nifer y teithiau ar feic yn goddiweddyd y nifer a wnaed mewn car.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal ei lefelau presennol o fuddsoddiad mewn seilwaith teithio llesol pwrpasol;

b) cynyddu ei hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o fanteision teithio llesol, iechyd ac fel arall, a seilwaith newydd, diogel sy'n cael ei ddarparu ledled Cymru; ac

c) cydnabod, ar ôl degawdau o ddylunio ein cymunedau o amgylch ceir modur, y bydd newid i system drafnidiaeth wyrddach, iachach yn gofyn am ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi mewn seilwaith a hyrwyddo effeithiol.

Cyflwynwyd gan