NNDM8573 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, sef, Cymalau 1 i 4, 11, 26 a 27, Dioddefwyr Ymddygiad Troseddol: Cod dioddefwyr; Cymal 15, Canllawiau ar rolau cymorth dioddefwyr penodedig; Cymalau 28 - 33 a Chymalau 35 - 39 Dioddefwyr Digwyddiadau Mawr; i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2023 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ebrill 2024 a 29 Ebrill 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Dioddefwyr a Charcharorion (Saesneg yn unig)