NNDM8572 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno bod darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, sef, Cymal 16 ynghylch Cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant pan fo un rhiant yn lladd y llall; ystyried Cymal 17 ynghylch marwolaeth  yn deillio o gam-drin domestig a Rhan 3 a'r Atodlen gysylltiedig sy'n ymwneud ag iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig, i'r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yn cael eu hystyried gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2023 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ebrill 2024 a 29 Ebrill 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Dioddefwyr a Charcharorion (Saesneg yn unig)