NNDM8558 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod taliadau sefydlog am drydan yng Nghymru yn sylweddol uwch na chyfartaledd y DU;

b) bod preswylwyr yn talu taliadau sefydlog ar ddiwrnodau pan na ddefnyddir unrhyw ynni; ac

c) bod cwsmeriaid sy'n rhagdalu yn cronni dyled tâl sefydlog pan fydd eu credyd wedi gorffen.

2. Yn credu:

a) bod taliadau sefydlog yn arbennig o annheg i breswylwyr incwm is gan fod yn rhaid iddynt dalu hyd yn oed wrth leihau defnydd;

b) y dylid dileu taliadau sefydlog ar ddiwrnodau pan na ddefnyddir unrhyw ynni; ac

c) na ellir cyfiawnhau taliadau sefydlog uwch i drigolion Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi gwasanaethau cynghori pellach i helpu pobl sydd wedi mynd i ddyled yn rhannol oherwydd taliadau sefydlog uchel; a

b) rhoi cymorth pellach i bartneriaid sy'n gweithio gyda phobl sydd mewn angen dybryd.