NDM8545 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 17/04/2024 | I'w drafod ar 24/04/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r adroddiad Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a amlygodd:

a) bod sgoriau PISA wedi gostwng mwy yng Nghymru nag yn y mwyafrif o wledydd eraill yn 2022;

b) mai deilliannau addysgol ôl-16 yng Nghymru yw'r gwaethaf yn y DU;

c) bod disgyblion yng Nghymru dim ond yn perfformio cystal â phlant difreintiedig yn Lloegr;

d) bod yr esboniad am berfformiad addysgol is yng Nghymru yn debygol o adlewyrchu polisi a dull gweithredu Llywodraeth Cymru; ac

e) bod y cwricwlwm newydd i Gymru a diwygiadau Llywodraeth Cymru yn peri risg o ehangu anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon, a chyfyngu ar gyfleoedd addysg yn y dyfodol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) comisiynu adolygiad annibynnol i'r diwygiadau addysg presennol sy'n cael eu cyflwyno;

b) blaenoriaethu addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth;

c) sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt; a

d) cyflwyno academïau ac ysgolion rhydd.

Adroddiad Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM8545 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 19/04/2024

Dileu is-bwynt 2d)

NDM8545 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 19/04/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol fel prif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

2. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru).

3. Yn mynegi diolch i'r gweithlu addysg am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y flwyddyn.

4. Yn nodi, er gwaethaf camreolaeth Llywodraeth y DU o'n cyllid cyhoeddus, bod Llywodraeth Cymru wedi diogelu’r cyllid sydd ar gael i ysgolion trwy'r setliad llywodraeth leol a chyllid grant.