NDM8538 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 10/04/2024 | I'w drafod ar 17/04/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i'r diben.

2. Yn gresynu'r rhaniad rhwng trafnidiaeth yng ngogledd a de Cymru, gyda £50 miliwn wedi'i ddyrannu i Fetro Gogledd Cymru, a thros £1 biliwn i Fetro De Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gynnal adolygiad ar frys o'r profion adeiladu ffyrdd presennol gyda'r bwriad o weithredu'r holl gynlluniau a gafodd eu dileu yn y gorffennol a fydd yn hybu twf economaidd neu'n gwella diogelwch ar y ffyrdd;

b) i wrthdroi ar frys Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 a mabwysiadu dull wedi'i dargedu ar gyfer terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru; ac

c) i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus i wneud bysiau a threnau'n fwy cystadleuol â theithio mewn car.

Gwelliannau

NDM8538 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 12/04/2024

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu:

a) nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i’r diben;

b) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn ganlyniad gofidus i’r ffaith bod penderfyniadau dros drafnidiaeth yn cael eu gwneud a'u rheoli gan bobl y tu allan i Gymru;

c) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn deillio o fethiannau hanesyddol a chyfredol i fuddsoddi mewn teithiau o fewn Cymru; a

d) bydd datrys materion o fewn rhwydwaith trafnidiaeth Cymru ond yn bosibl drwy ddatganoli'r holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ailystyried ei phenderfyniad i beidio â lansio her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddynodi HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr;

b) gweithredu ar frys i weithredu'r adolygiad parhaus o effaith y terfynau cyflymder newydd, fel y cytunwyd yn flaenorol gan bleidlais y Senedd o blaid NDM8347 fel y’i diwygiwyd, ar 13 Medi 2023;

c) blaenoriaethu cyllid teg i fysiau sy'n gosod cyllid bws ar yr un sail teg â chyllid rheilffyrdd; a

d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli'r holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru.

NDM8538 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 12/04/2024

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ynghylch gwahanol faterion, gan gynnwys trafnidiaeth a chysylltedd.

2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod:

a) gwerth seilwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys ffyrdd, o ran ein heconomi a’n cymdeithas; a

b) y gall Llywodraeth Cymru wella’r ffordd y mae’n dylunio ac yn adeiladu seilwaith ffyrdd newydd, a chynnal yn well rwydwaith ffyrdd presennol Cymru.

3. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fireinio’r gwaith o weithredu terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru, gan gynnwys ystyried y canllawiau ar ddosbarthiad ffyrdd, newid terfynau cyflymder ar rai ffyrdd a pharhau i drafod â chymunedau.