NDM8531 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 09/04/2024 | I'w drafod ar 16/04/2024

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a) Adrannau 1-12;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 13-17;

d) Atodlen 2;

e) Adran 18;

f) Atodlen 3;

g) Adrannau 19-26;

h) Enw hir.