NDM8524 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2024 | I'w drafod ar 20/03/2024

Yn cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn y Senedd ynghylch yr angen i ddiwygio model cyllido Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddod â'r fformiwla Barnett annheg i ben ac i ariannu Cymru yn ôl angen a nid ar sail poblogaeth. 

 

Gwelliannau

NDM8524 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2024

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno, yn lle fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, system newydd sy’n seiliedig ar anghenion cymharol ac sydd wedi’i chymeradwyo gan y pedair gwlad, o fewn cytundeb cyllidol newydd a gaiff ei oruchwylio a’i weithredu gan gorff sy’n annibynnol ar Lywodraeth y DU.

NDM8524 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2024

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r model cyllido presennol sy'n gweld Cymru'n cael £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar iechyd ac addysg yn Lloegr, gyda dim ond £1.05 yn cyrraedd GIG Cymru ac ystafelloedd dosbarth.

Yn nodi'r bron i £1 biliwn mewn buddsoddiad ychwanegol yng Nghymru gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a chyllid ffyniant bro.