NNDM8514 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod y mis hwn yn nodi 40 mlynedd ers dechrau streic y glowyr;

b) bod y frwydr hon wedi gweld pwysau llawn y rhyfel ynghylch cyflog y wladwriaeth yn erbyn Undeb Cenedlaethol y Glowyr a chymunedau glofaol y DU; ac

c) y brwydrodd glowyr Cymru dros ddyfodol y diwydiant, a bod cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi cefnogi'r glowyr yn eu brwydr.

2. Yn cydnabod y caledi a ddioddefodd glowyr a'u teuluoedd yn ystod y streic a'r modd y safodd menywod i arwain eu cymunedau i gefnogi'r streic.

3. Yn ailadrodd ei galwad am ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiadau yn Orgreave ac yn galw am gofeb genedlaethol i'r streic.