NDM8500 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2024 | I'w drafod ar 05/03/2024Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2024-25 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2024.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor oherwydd tanariannu gan Lywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn glaw ar Lywodraeth Cymru, cyn y setliad llywodraeth leol nesaf:
a) i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru;
b) i weithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl; ac
c) i’w gwneud yn ofynnol bod unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig cynnydd o fwy na 5 y cant yn y dreth gyngor yn cynnal refferendwm lleol ac yn cael canlyniad cadarnhaol yn y bleidlais cyn gweithredu'r codiad arfaethedig.