NNDM8497 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod ysgogiadau cyllidol Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig.

2. Yn credu nad yw'r hyblygrwydd cyllidebol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn ddigonol.

3. Yn nodi yr angen am fwy o ragweladwyedd a sicrwydd o drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith cynllunio cyllideb a gwaith cynllunio sefydliadau partner.

4. Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a'i therfynau benthyca yr un fath â phan gawsant eu gosod yn 2016.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, er budd rheoli cyllideb yn effeithiol, gan gynnwys, ar unwaith:

a) mynd i'r afael ag effaith chwyddiant ar derfynau benthyca a’r gronfa wrth gefn ers 2016;

b) gwneud terfynau'r gronfa wrth gefn gyffredinol a benthyca yn destun adolygiad blynyddol; ac

c) diddymu terfynau tynnu i lawr y gronfa wrth gefn.

Gwelliannau

NNDM8497 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2024

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod diffyg cyllid teg a hyblygrwydd cyllidol San Steffan wedi arwain at biliynau o arian sy'n ddyledus o ariannu HS2 a'r anallu i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni lleol gan ddefnyddio cronfeydd Ystâd y Goron.

NNDM8497 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2024

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

disodli Fformiwla Barnett er mwyn unioni'r annhegwch ar draws setliad cyllidol a chyllid cyfredol Cymru gyda system newydd sy’n symud oddi wrth ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus ad-hoc a thuag at fframwaith sy’n darparu cyllid cyson, tryloyw a theg i Gymru;

NNDM8497 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2024

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

cynyddu terfynau benthyca cyfalaf;

NNDM8497 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2024

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i archwilio ar y cyd ffyrdd newydd o ddadansoddi hyblygrwydd a fframweithiau cyllidol Llywodraeth Cymru, a'u heffeithiau ar Gymru, er enghraifft drwy sefydlu Swyddfa Gyllideb Seneddol.

NNDM8497 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2024

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau i osod bandiau treth incwm penodol i Gymru.