NDM8492 - Dadl y Llywodraeth

Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2024 | I'w drafod ar 27/02/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod hyblygrwydd cyllidol Llywodraeth Cymru yn annigonol ac yn cyfyngu ar ei gallu i fynd i’r afael â’r pwysau a’r ansicrwydd digynsail sy’n wynebu Cymru, gan gynnwys ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i anghenion a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg.  

2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar benderfyniadau ac amseru Llywodraeth y DU, a bod angen gallu rhagfynegi’n well drefniadau ariannu Llywodraeth Cymru, ac angen mwy o sicrwydd amdanynt, i gefnogi ei phroses cynllunio’r gyllideb a phroses cynllunio’r gyllideb ei sefydliadau partner, gan gynnwys yr awdurdodau lleol.

3. Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a’i therfynau benthyca yr un fath ag yr oeddent pan gawsant eu gosod yn 2016 ac, yn 2024-25, bydd eu gwerth 23% yn llai mewn termau real na phan gawsant eu cyflwyno yn 2018-19.

4. Yn nodi’r diffyg tegwch a chysondeb sy’n gysylltiedig â phenderfyniadau Llywodraeth y DU ynglŷn â’r hyblygrwydd cyllid ar gyfer y llywodraethau datganoledig, a bod trefniadau Llywodraeth Cymru yn sylweddol llai hael na rhai’r Alban a’i threfniadau benthyca cyfalaf yn llawer llai na hael na rhai Gogledd Iwerddon.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, er mwyn rheoli’r gyllideb yn effeithiol, gan ei galluogi i fuddsoddi mwy a chyflawni canlyniadau gwell i bobl Cymru, gan gynnwys mynd ati ar unwaith i:

a) fynegeio terfynau benthyca a chronfa wrth gefn gyffredinol Llywodraeth Cymru yn ôl chwyddiant; a

b) diddymu’r cyfyngiadau ar Lywodraeth Cymru i dynnu symiau wrth gefn i lawr.

Gwelliannau

NDM8492 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod bod ysgogiadau cyllidol Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig.

2. Yn nodi nad yw'r hyblygrwydd cyllidebol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn ddigonol.

3. Yn cydnabod yr angen am fwy o ragweladwyedd a sicrwydd o drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith cynllunio cyllideb a gwaith cynllunio sefydliadau partner.

4. Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a'i therfynau benthyca yr un fath â phan gawsant eu gosod yn 2016.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, er budd rheoli cyllideb yn effeithiol, gan gynnwys, ar unwaith:

a) gwneud terfynau'r gronfa wrth gefn yn gyffredinol a benthyca yn destun adolygiad blynyddol; a

b) diddymu terfynau tynnu i lawr y gronfa wrth gefn.

NDM8492 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod diffyg cyllid teg a hyblygrwydd cyllidol San Steffan wedi arwain at biliynau o bunnoedd sy'n ddyledus o ariannu HS2 a'r anallu i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni lleol gan ddefnyddio cronfeydd Ystâd y Goron.

NDM8492 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2024

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

adolygu Fformiwla Barnett er mwyn unioni'r annhegwch ar draws setliad cyllidol ac ariannol cyfredol Cymru;

NDM8492 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2024

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

cynyddu terfynau benthyca cyfalaf;

 

NDM8492 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i archwilio ar y cyd ffyrdd newydd o ddadansoddi hyblygrwydd a fframweithiau cyllidol Llywodraeth Cymru, a'u heffeithiau ar Gymru, er enghraifft drwy sefydlu Swyddfa Gyllideb Seneddol.