NDM8489 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 14/02/2024 | I'w drafod ar 21/02/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod gwaith ac ymroddiad staff gweithgar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

2. Yn nodi:

a) bod 27 Chwefror 2024 yn nodi blwyddyn ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi yn ôl mewn mesurau arbennig;

b) bod y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yn flaenorol rhwng 8 Mehefin 2015 a 24 Tachwedd 2020, lai na 6 mis cyn etholiadau'r Senedd yn 2021; ac

c) bod y bwrdd iechyd wedi treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig nag unrhyw sefydliad GIG arall yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

3. Yn gresynu nad yw cleifion a staff wedi gweld y gwelliannau gofynnol eto ers i'r bwrdd gael ei roi mewn mesurau arbennig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gwrando ar bryderon gweithwyr proffesiynol gofal iechyd pan godir pryderon am ansawdd gwasanaethau; a

b) sicrhau bod cleifion yng Ngogledd Cymru yn cael y gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu.

Gwelliannau

NDM8489 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 16/02/2024

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

cyhoeddi proses ddad-ddwysáu glir, gan gynnwys egluro pwy sy'n cyfrannu at y broses ddad-ddwysáu a phwy fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol, tra hefyd yn darparu esboniad o'r penderfyniad;

NDM8489 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 16/02/2024

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu penodiad Dyfed Edwards fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen glir ar gyfer penodi cyflenwad llawn o gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol.

NDM8489 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 16/02/2024

Dileu popeth ar ôl 2(a) a rhoi yn ei le:

bod rhaid i unrhyw benderfyniad i uwchgyfeirio neu isgyfeirio sefydliad GIG fod yn seiliedig ar ystyriaeth briodol o ystod helaeth o ffactorau a thystiolaeth ffeithiol;

Yn nodi ymhellach:

a) y gwnaeth adolygiad dilynol Archwilio Cymru o effeithiolrwydd y Bwrdd gydnabod gwelliant o ran sefydlogrwydd y Bwrdd a dod i’r casgliad nad yw’r camweithrediad yn y Bwrdd a ddisgrifiwyd yn ei adroddiad blaenorol i’w weld mwyach; a

b) bod perfformiad ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi gwella ers mis Chwefror 2023, gydag 1.5 pwynt canran o welliant yn erbyn y targed 26 wythnos, 15.5 y cant o ostyngiad yn nifer y bobl sy’n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf a’r nifer lleiaf o bobl yn aros cyfanswm o dros 104 wythnos ers mis Awst 2021.

Yn cydnabod:

a) bod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli bod heriau sylweddol yn dal i fod; a

b) bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r bwrdd iechyd a’i ddwyn i gyfrif i sicrhau ei fod yn gwrando ar bryderon gweithwyr gofal iechyd proffesiynol pan godir pryderon ynghylch ansawdd gwasanaethau ac yn darparu’r gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y mae cleifion yng Ngogledd Cymru yn ei haeddu.