NDM8488 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 14/02/2024 | I'w drafod ar 21/02/2024

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sef “Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE”, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2023.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2024.