NNDM8471 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod
Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae Mr Alan Bates a’r Justice for Sub-postmasters Alliance wedi’i chwarae wrth ddatgelu sgandal Swyddfa’r Post ym Mhrydain.
2. Yn cydnabod gwaith yr ymchwiliad i system TG Horizon Swyddfa’r Post wrth lunio darlun clir o’r broses o gyflwyno system TG Horizon a’i methiannau.
3. Yn croesawu penderfyniad Paula Vennells i ddychwelyd ei CBE.
4. Yn nodi bod gan Lywodraeth Cymru ddau gontract â Fujitsu, y mae’r ddau ohonynt yn ymwneud â systemau tocynnu clyfar.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i adolygu ei chontractau â Fujitsu;
b) i gefnogi cais i Mr Alan Bates gael ei urddo’n farchog; ac
c) i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod is-bostfeistri yng Nghymru yn cael eu digolledu.