NDM8469 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2024 | I'w drafod ar 31/01/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn torri’r gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-2025.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden er mwyn cefnogi busnesau a diogelu swyddi.

Gwelliannau

NDM8469 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 26/01/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu’r ffaith bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, a hynny er gwaethaf y ffaith ei bod werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real nag ydoedd adeg ei gosod yn 2021:

a) yn darparu pecyn o gymorth ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £384 miliwn;

b) yn rhoi cap o 5 y cant ar y cynnydd yn sgil chwyddiant i'r lluosydd ardrethi annomestig; ac

c) yn darparu rhyddhad o ran ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y pumed flwyddyn yn olynol, gan adeiladu ar y cymorth sydd werth bron i £1 biliwn a ddarparwyd ers 2020-21.

NDM8469 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 26/01/2024

Ychwanegwch pwynt newydd ar ôl pwynt (1) ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu ymhellach at setliad cyllid presennol Trysorlys y DU nad yw'n ystyried anghenion Cymru. 

NDM8469 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 26/01/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud oddi wrth ardrethi annomestig, cyhoeddi amserlen ar gyfer eu gwaith, a sicrhau bod map ffordd ar gyfer pontio allan o ardrethi annomestig yn cael ei ddarparu yn ogystal ag opsiynau ar gyfer system newydd.