NDM8467 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2024 | I'w drafod ar 31/01/2024Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r deisebau canlynol ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant:
a) deiseb ‘P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr’ a gasglodd 10,820 o lofnodion; a
b) deiseb 'P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024' a gasglodd 407 o lofnodion.