NDM8460 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 17/01/2024 | I'w drafod ar 12/03/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) cyflwyno systemau ar gyfer monitro, adrodd ac uwchraddio goleuadau yn rheolaidd ar gyfer yr holl wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys ar fwrdd cerbydau, mewn arosfannau a gorsafoedd, ac ar strydoedd yn union o amgylch gorsafoedd trên a safleoedd bysiau mawr;

b) adolygu hyfforddiant a gynigir ar hyn o bryd ym maes diogelwch i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth, o'u rhan eu hunain ac eraill;

c) gwella gweithdrefnau adrodd presennol a datblygu systemau mwy cyson a thryloyw ar gyfer adrodd a chofnodi achosion o gam-drin sy'n effeithio ar bobl sy'n agored i niwed ar drafnidiaeth gyhoeddus; a

d) asesu'r angen am ddyletswydd statudol ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod teithwyr yn cyrraedd pen eu taith, neu fan diogel, ar ôl iddi dywyllu.