NDM8459 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 17/01/2024 | I'w drafod ar 24/01/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cynghorau'n ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido y maent yn eu hwynebu.

2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn derbyn y lefelau uchaf erioed o gyllid gan Lywodraeth y DU.

3. Yn nodi bod gan gynghorau dros £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.

4. Yn gresynu bod cynghorau'n ymgynghori ar godiadau o hyd at 25 y cant i’r dreth gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-2025.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla cyllido llywodraeth leol Cymru;

b) gweithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl; ac

c) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig codiad o dros 5 y cant i’r dreth gyngor gynnal refferendwm lleol a chael pleidlais o blaid cyn gweithredu'r cynnydd arfaethedig.

Gwelliannau

NDM8459 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2024

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at:

a) y tanariannu cronig i Gymru gan lywodraethau olynol y DU, sy'n effeithio ar gyllidebau awdurdodau lleol; a

b) amcangyfrifon o fwlch cyllido o £750 miliwn erbyn 2027 a fydd yn ymwreiddio ymhellach amddifadedd ac anghydraddoldeb.

Yn credu bod cyllid llywodraeth leol yng Nghymru ar daflwybr anghynaladwy heb fodel ariannu teg o San Steffan.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU adolygu model cyllido Barnett ar sail anghenion cymdeithasol Cymru i gefnogi pob maes cyllidebol, gan gynnwys cyllid awdurdodau lleol;

b) cyflwyno cynlluniau manwl ar frys a fydd yn rhoi sylfaen gynaliadwy i awdurdodau lleol a'r holl wasanaethau cyhoeddus; ac

c) darparu canllawiau ar sut mae isafswm presennol y Grant Cynnal Refeniw yn ymwneud â setliad llywodraeth leol ar gyfer 2024-25, a datblygu strategaeth i sicrhau y caiff y Grant Cynnal Refeniw ei gymhwyso'n gyson drwy flynyddoedd ariannol dilynol.

Yn galw ar Lywodraeth y DU ar y pryd i weithredu fformiwla ariannu teg bob amser sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i ariannu awdurdodau lleol yn ddigonol.

NDM8459 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2024

Dileu pwyntiau 1 a 2 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod y rôl hanfodol sydd gan awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, y cynnydd sylweddol yn y setliad llywodraeth leol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, diogelu'r cynnydd o 3.1 y cant ar gyfer 2024-25, a'r heriau cyllido y mae awdurdodau yn eu hwynebu serch hynny.

Yn cydnabod bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 bellach yn werth hyd at £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021.

NDM8459 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2024

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn:

a) parhau i ddatblygu a chynnal fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru mewn partneriaeth â llywodraeth leol; a

b) parhau i gydnabod pwysigrwydd gwneud penderfyniadau democrataidd lleol ynghylch cyllidebau cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus.