NDM8451 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2024 | I'w drafod ar 17/01/2024

Cynnig bod y Senedd hon:

1. Yn nodi:

a) bod tua 80 y cant o gwmnïau bach yng Nghymru wedi cael trafferth recriwtio yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd prinder sgiliau;

b) y bwlch sgiliau ar draws sectorau economaidd yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon Sgiliau Cyflogwyr yn ddiweddar; ac

c) targed Llywodraeth Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y Senedd. 

2. Yn gresynu:

a) mai llai na thraean o darged Llywodraeth Cymru sydd wedi'i gyflawni, dros hanner ffordd drwy dymor presennol y Senedd;

b) y bydd gostyngiad amcangyfrifedig o 24.5 y cant mewn cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru, a fydd yn arwain at 10,000 yn llai o brentisiaethau yn dechrau yn 2024-25; ac

c) bod Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i ostyngiadau cyllid, yn methu yn ei chenhadaeth economaidd i gefnogi pobl ifanc i sicrhau dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu model ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer prentisiaethau;

b) diystyru cyflwyno ffioedd dysgu ar gyfer gradd-brentisiaethau yng Nghymru; ac

c) comisiynu gwerthusiad annibynnol o ddichonoldeb cyrraedd ei tharged ar gyfer prentisiaethau pob oed erbyn 2026.  

Gwelliannau

NDM8451 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2024

Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (a) ac ail-rifo yn unol â hynny:

ehangu prentisiaethau, yn enwedig i lefel gradd, i fynd i'r afael â phrinder sgiliau mewn sectorau craidd gan gynnwys gofal iechyd, ynni adnewyddadwy a thechnoleg ddigidol;

NDM8451 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2024

Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (a), ac ailrifo yn unol â hynny:

caniatáu ar gyfer pwyntiau mynediad hyblyg ar gyfer prentisiaethau gradd, gan gydnabod cyrhaeddiad addysgol blaenorol unigolyn;

NDM8451 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 12/01/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod busnesau bach ledled Cymru yn cael mynediad at ystod o gymorth cyflogaeth, sgiliau a busnes a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gwrdd â heriau recriwtio mewn marchnad lafur gyfnewidiol ac yn amgylchedd twf isel y DU;

b) y bwlch sgiliau sy'n bodoli mewn sectorau economaidd yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon Sgiliau Cyflogwyr diweddar; ac yn croesawu pwyslais Llywodraeth Cymru ar gymorth wedi'i dargedu yn y meysydd hynny, gan gynnwys cyllid ar gyfer cyfrifon dysgu personol; 

c) targed Llywodraeth Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y Senedd, a'r effaith y mae'r toriadau i gyllideb Cymru, colli arian yn lle'r cronfeydd Ewropeaidd a'r chwyddiant uchaf erioed yn ei chael ar gyllidebau busnes a chyhoeddus sy'n ofynnol i gyflawni yn erbyn amcangyfrifon a osodwyd cyn y sawl ysgytwad economaidd sydd wedi dod i'r amlwg ers 2021; a

d) bod toriadau i gyllideb Cymru, colli arian a addawyd yn lle cronfeydd yr UE a chwyddiant uchel tu hwnt wedi tanseilio cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru, a goblygiadau hyn i bobl ifanc a'u gallu i gyflawni dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.

2. Yn croesawu:

a) bod Llywodraeth Cymru, erbyn hanner ffordd drwy dymor presennol y Senedd, wedi ymrwymo dros £400m mewn prentisiaethau; a

b) yr ymrwymiad i ddiogelu ansawdd darpariaeth prentisiaethau ar adeg o ostyngiad mewn cyllidebau, ac yn cydnabod y risgiau hirdymor sy'n gysylltiedig â lleihau ystyriaethau ansawdd er mwyn cynyddu nifer y prentisiaethau a gyflwynir.

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn:

a) parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer prentisiaethau yn erbyn cefndir o bwysau ariannol difrifol;

b) cefnogi prentisiaethau gradd yng Nghymru; ac

c) gweithio gyda'r rhwydwaith prentisiaethau i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.