NDM8449 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2024 | I'w drafod ar 16/01/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn golygu bod gan Gymru lai o lais dros arian, a hefyd yn tanseilio datganoli a’r Senedd hon;
b) bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi bod yn fethiant llwyr nad yw wedi llwyddo i gymryd lle cronfeydd yr UE yng Nghymru, gan adael diffyg o bron i £1.3 biliwn; ac
c) bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin, Cronfeydd Ffyniant Bro a’r Rhaglen Lluosi wedi’u llesteirio gan oedi a chamreoli gan Lywodraeth y DU, gan roi straen ar awdurdodau lleol ac arwain at gau rhaglenni pwysig.
2. Yn galw am ailgyflwyno cyllid buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth Cymru fel bod modd cyflawni yn unol â pholisïau datganoledig sy’n llwyr atebol i’r Senedd.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod cyllid ffyniant bro Llywodraeth y DU yng Nghymru yn fwy na £2.5 biliwn, a'i fod yn cyflwno prosiectau i drawsnewid cymunedau, creu swyddi a thyfu'r economi.
2. Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Gyllid Datblygu Rhanbarthol ar ôl Gadael yr UE a'i argymhellion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad ynghylch a ddylid darparu gwahanol elfennau o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar lefel leol, ranbarthol neu ledled Cymru.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegwu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1, ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn credu nad yw polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn ffafriol i degwch o fewn Cymru ac wedi arwain at loteri cod post o ran cymorth economaidd ledled Cymru, gan waethygu anghydraddoldebau rhanbarthol rhwng cymunedau yng Nghymru y mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi methu â mynd i'r afael â hwy.
Yn credu y dylai pob penderfyniad ynghylch sut y caiff arian ei wario yng Nghymru gael ei wneud yng Nghymru.
Yn gresynu at y ffaith i Gymru gael ei thanariannu'n hanesyddol o ganlyniad i Fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, gan fod hyn yn gwaethygu effaith y diffyg mewn cyllid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Gronfa Ffyniant Bro.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw am:
a) dychwelyd cyllid buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth Cymru i ddarparu yn unol â pholisïau datganoledig sy'n gwbl atebol i'r Senedd;
b) Bil Tegwch Economaidd (Cymru) – gwarantu cyllid teg yn seiliedig ar anghenion Cymru;
c) mynd i'r afael â'r annhegwch ar draws setliadau cyllido ac ariannol presennol Cymru, er enghraifft drwy ailddynodi HS2 a Northern Powerhouse Rail fel prosiectau ar gyfer Lloegr yn unig, gan roi cyllid canlyniadol i Gymru o ganlyniad i hynny.